Wel, dwi di dysgu lot erbyn hyn a di derbyn profiadau anhygoel yn Nakargot! Ma'r stumog yn well, wyhyw!
Reit ho, wel wythnos yma da ni 'di bod yn brysur yn symud llwyth o dywod a cerrig a stwff! Ac gafodd ni sgwrs am yr UN a hawliau dynol a ballu dydd Gwener, rili cwl! Ma na gymaint o anghyfiawnder yn y byd, a does na'm modd gwella'r sefyllfa i ryw raddau ond dwi am ymuno hefo Amnaste pan ddoi adre a trio neud chydig o wahaniaeth!
Cafodd ni benwythnos llawn hwyl yn Nakargot yn gweld yr haul yn machlud dros Everest ar Himalyaaas, son am olygfa! Gellai'm disgifio fo mewn geiriau rili! Cafodd ni fwyd anhygoel yn y gwesty, cig! Waw, cig!!! A cyri rili poeth, ond dwi' di meistrioli'r grefft o fyta bwyd poeth erbyn hyn!!
So dyna dwi di bod yn neud! Rwan, dwi am son chydig mwy am fy nheulu yma'n Nepal! I ddechrau, dyma'r aelodau:
Hajurama= Nain Nepali
Hajurbwa= Taid Nepali
Kaki= Anti Nepali
Kaka= Yncyl Nepali
Nirjal- Enw'n mrawd Nepali sy'n 16 oed.
Niraj= Fy mrawd ieuengaf sy'n 14 oed.
Nur= Fy mrawd o Birmingham, he he!
Dipa= Fy enw Nepali, sy'n golygu fflam yn Nepali.
Bal Krishna= Bos ni yma'n Nepal, ma'n ddyn anhygoel ac yn hollol unigryw, dwi rioed di cyfarfod neb mor glen yn fy mywyd!
He he rhag ofn bo chi'n drysu! Ma'r teulu'n wych a ma Hajurama'n rili rili ffyni, maen siarad Nepali hefo fi drwy'r amser, sy'n wych achos dw i'n cael cyfle i ymarfer! Er ma'r iaith yn anodd iawn , ond dwi'n gallu cynnal sgyrsiau byr iawn iawn iawn erbyn hyn! e.e Tapallai Casta Cha? (Sut wyt ti?) Sanchai Cha (iawn diolch)! Ma "Pugyo'n" air hynod ddefnyddiol sy'n golygu 'Dwi'n hollol llawn a gellai'm byta dim mwy", 'Numaste' yn golygu 'Helo', Tick cha sy'n golygu OKAY! A Baart sy'n golygu reis, tarkarri (cyri), Daal (fel cawl rili hallt)! he he a 'Pokara' sy'n golygu Onion Bhaji! Sutrabieni (nos da) a dwi'm yn cofio'r gair 'bore da' sori dwds! Urmm taka lagyo (dwisho bwyd) he he! A dyma chi ffaith ddiddorol, ma mwgwd yn golygu'r un peth yn Nepali h.y Mask! Cwl de?!
Reit dyna'r low down hyd yn hyn! Welai chi'n fuan dwds! A dwi'm yn credu bo fi di bod yma am 5 wythnos, ma amser yn hedfan! Damia! Dw i'm rili'n edrych ymlaen i wynebu realiti pan ddoi'n nol!
Chow 4 Now Henffych,
Cerixxxx
Hello My Friends!
Right, the low down very quickly! We visited Nakargot, which was very very beautiful! We saw the Sun rise over Mt Everest and the Himalayaas! Very beautiful!
Okay, now I would like 2 tell you about my family members, so that you don't get confused when I write about them on my blog:
Hajurama= Nepali Grandma
Hajurbwa=Nepali Grandad
Kaki= Nepali Aunt
Kaka=Nepali Uncle
Nirjal= My Nepali brother who i 16
Niraj= My youngest Nepali brother who is 14.
Nur= My house mate from U.K
Bal Krishna= Our project supervisor! Such a cool dude!
Dippa= This is my Nepali name, like candle light, flame!
I can't believe 5 weeks have past by arleady, I'm having an amazing time and I don't won't 2 face reality when I get back, he he!
Good bye 4 now,
Cerixxxx
No comments:
Post a Comment