Tuesday 12 July 2011

Bywyd Newydd Ceri

Helo,
Heb fod ar hwn ers sbelen go dda, sy'n golygu bod gen i mwy na digon i rannu gyda pwy bynnag sy'n dilyn hwn.
Reit, dydd Iau dwetha wnes i ddychwelyd o'n ngwyliau yn Montenegro/Croatia. Un noson tra o ni'n Montenegro ges i ddiawl o seshwn mewn tref o'r enw Budva, chwydais fy mherfedd i fyny bore wedyn (go iawn). Ar ôl y chwydfa roedd rhaid i mi deithio 3 awr ar fws i Dubrovnik, sy ddim yn lot o amser o gwbl, ond efo fy mammoth hangover, roedd y daith yn hunllef.
Oherwydd yr hangover yma ges i fy’n ysbrydoli i newid agweddau o fy mywyd ac hynny mewn ffordd realistig iawn. Peidiwch â phoeni dw i heb gael troeadigaeth, ac bydda i dal yn yfed wnes bo’ fi’n chwydu fy mherfedd fyny yn y dyfodol dw i’n siŵr.
Yr hyn dw i ’di penderfynu wneud ydy yfed 0 yn ystod yr wythnos, sy’n dipyn o dasg wythnos yma ac dw i ’di methu yn llwyr. Ddoe es i ‘Clwb dydd Llun Pubs Caerdydd bob yn un’ a yfed dau fotel o Corona, nos Sul es i’r gwdihw a yfed 3 botel o Corona, a tra o ni’n ‘ Clwb dydd Llun Pubs Caerdydd bob yn un’, landiodd ffrind wnes i’n ystod twmpath ar fy ngwyliau yn Ffrainc y llynnedd efo dau grat o gwrw sy’n 7.2% yr un, uh oh!!!
Ond os gwerthuswn ni’r paragraff uchod dw i wedi gwneud peth da i fy’n nghorff ac mae hynny oherwydd fy mod wedi ymuno a ‘weight watchers’. Cyn i mi ymuno a ‘weight watchers’ buaswn ni wedi yfed 2 beint o lager nithiwr yn hytrach na corona, dydy Corona ddim hanner mor wael i mi ac dydyn nhw ond yn 2 pwynt yr un (pwyntiau weight watchers) . Ac buaswn ni siwr o fod wedi bwyta rhywbeth llawn brasder I swper yn hytrach na pei pysgodyn iachus iawn.
Ar ben hyn i gyd rwyf hefyd wedi ymuno a hanner marathon Caerdydd, sy wedi codi peth ofn arna i, ond dechreuais yr hyfforddiant neithiwr a rhedeg 2.6 millitr. Llwyddais i wario £150 ar ddillad rhedeg cyn mynd ati i ddechrau hyfforddi, ond ma’r trainers sy werth £87 yn fendigedig ac dw i’n rhedeg yn well ynddyn nhw, sy’n gret!
Bydda i’n rhoi hanes yr hyfforddiant i fyny ar hwn, gan obeithio fydda I’n dal ati.
Dw i hefyd wedi dechrau defnyddio fy meic ogwmpas Caerdydd, dw i ’di bod yn ei ddefnyddio ers dros mis bellach a ma’n fendigedig, rwy’n beicio i’r gwaith, i ganol dref, bob man!! Maen golygu fy mod yn safio £15 yr wythnos ar docynnau bws, sy’n safio £60 y mis i mi a £720 y flwyddyn!!!!!
Felly dyna’r diweddaraf; peidiwch a panicio a peidiwch a meddwl fy mod wedi callio, dw I’n mynd allan efo criw gwaith fory a ma’r seshwn yn dechrau am 5 o’r gloch nos fory, wps!
Hwyl am y tro.
Ceri