Thursday 11 November 2010

BLIN, BLINDER!

•Pwy welodd 50,000 o fyfyrwyr yn protestio ar strydoedd Llundain ddoe? 2,000 yn Rali
S4C, Parc Cathays, Caerdydd dydd Sadwrn diwethaf?

•Pwy sy'n ofni bo nhw am golli swydd? neu aelod o'i teulu am golli swydd?

•Pwy sy'n ofni bod magu plant a gorfod talu mwy tuag at ei pensiwn a gweithio wnes bo nhw'n 66 mlwydd oed yn deg? Cofiwch chi bod oedran ymddeol merched am godi o 60 i 66, teg??

•Pwy sy'n ofni bod rhaid iddyn nhw dalu 9,000 y flwyddyn (mwy o bosib mewn blynyddoedd i ddod) i'w plant gael yr hawl i dderbyn addysg uwch? Teg!?? Da ni 'di bod yn ddigon lwcus i gael grantiau a pob math o gefnogaeth i fynd i'r coleg, ond meddyliwch chi am y rhai sy'n wynebu 40,000 o ddyled wedi iddyn nhw orffen astudio, ac os fydd eich plant eisiau dysgu bydd rhaid iddyn nhw ddysgu mathemateg neu wyddoniaeth i dderbyn grant addysg yn y coleg, crazy ond gwir! Er bod hyn ond am ddigwydd yn Lloegr ar hyn o bryd mae am gael effaith ar addysg uwch yng Nghymru fyd!

•Pwy sy'n ofni bo'r system iechyd am fynd o ddrwg i waeth? e.e.Hosbis Sant Cyndeyrn, Llanelwy, sydd wedi cynnig gwasanaeth arbennig i gleifion gyda cancr, dros hanner y staff am golli swyddi o fewn yr wythnosau nesaf, pwy sydd am ofalu am y cleifion?

•Pwy sy'n ofni na fydd gan eu plant mor hawl i wylio rhaglenni trwy'r gyfrwng Gymraeg? Addysg Gymraeg, Gweithio trwy gyfrwng Gymraeg?

•Efallai bod chi'n meddwl bo fi'n malu cachu ond ma'r ffordd ma'r llywodraeth yn Sant Steffan wedi delio hefo S4C yn profi nad oes ganddynt unrhyw gydymdeimlad nag amynedd hefo ni yma'n Nghymru, felly er mwyn sicrhau dyfodol disglair i Gymru rhaid i ni godi'n lleisiau, sut?

1.Dewch i Rali Na i Toridau- Ie i’n Cymunedau:http://www.facebook.com/event.php?eid=143919772322587 (gallai drefnu bws o Llanrwst os oes angen)

2.Refferendwm mis Mawrth (gobeithio) , ymunwch i ddweud "Ie" i fwy o bwerau i'r llywodraeth er mwyn camu'n agosach at ddweud tata unwaith ac am byth i'r llywodraeth yn San Steffan gan bod ni'n gymaint o boen iddyn nhw!

3.Croeso i chi ddod i drafod eich pryderon chi am y toriadau, iaith Gymraeg yn Cell Cymdeithas yr Iaith Llanrwst, dydd Mercher cyntaf pob mis, Menter Iaith Llanrwst, 7y.h- rydym yn barod wedi dechrau lobio gwleidyddion, llythyru cwmniau uniaith Saesneg a hynny'n gwbl gyfreithlon.

4.Lobio gwleidyddion, os ydych chi'n meddwl bo'r toriadau yn anheg ebostiwch eich Aelod Seneddol a mynnwch eich bod yn cael eich clywed!

Beth bynnag yw eich barn, credaf bo'r rhan fwyaf ohonach chi'n credu bo'r toriadau yn anheg a dim ond mater o amser wnes fydd pawb yn gweld yr effaith ma'r toriadau yma am gael ar ein cymunedau, diwylliant, gwasanaethau.