Saturday 14 January 2012

Burma,


Bob 3 mis dwi’n tueddu i fynd drwy phase; gall hynny fod yn un rhywbeth o gael obsesiwn efo beans neu fel yr un rwy’n mynd drwyddi ar hyn o bryd sef hanes a brwydr Burma dros annibyniaeth a democratiaeth.

Tua phythefnos yn ôl pan oedd hi’n 2011, es i i’r sinema i weld ffilm ysbrydoledig iawn, sef “The Lady” sef hanes caethiwed a brwydr Aung San Suu Kyi dros annibynniaeth a democratiaethi I Burma. Cafodd y ffilm gymaint o effaith arna i, er bod rhannau o’r script efallai braidd yn sketchy ar brydiau, yn gyffredinol oedd y ffilm mwy neu lai yn wir.

http://www.nobelprize.org/nobel_prizes/peace/laureates/1991/kyi-bio.html

Ysbrydolodd y ffilm i mi ymuno a “BurmaCampaignUk” sy’n codi arian ac ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb y sefyllfa, er y gallech ddadlau bod pethau wedi gwella o beth uffern ers y 90au yno, mae 'na gannoedd os nad miloedd o weriniaethwyr, ymgyrchwyr dal yn y carchar, mae 'na rhai ohonyn nhw wedi bod yn y carchar ers yr ymgyrch gyntaf un dros ddemocratiaeth o dan arweinyddiaeth Aung San Suu Kyi ym 1988.

Maen ddynes ysbrydoledig iawn a phenderfynol, wynebodd sawl her yn eu hymgyrch dros ddemocratiaeth I Burma, roedd rhaid iddi ddewis rhwng parhau i frwydro dros ddemocratiaeth dros dreulio amser gyda’i gwr, y diweddar, Michael Aris, oedd yn marw, a chollodd ef ar ei wely angau. Rhoddwyd y dewis iddi gan filwyr Thein Sein (arweinydd unbennaeth, gomiwnyddol Burma) i gael ei rhyddhau o’i dedfryd o fod yn garcharor yn ei chartref ei hun neu adael Burma I fod efo’i gwr yn gwybod y buasai hi byth yn medru dychwelyd yn ôl I Burma, yn syth heb unrhyw amheuaeth dywedodd “Na, be fath o enghraifft o ryddid ydy hynny”, gan wybod yn iawn y buasai gwr wedi gwylltio yn wallgof petasai hi wedi rhoi ei holl ymdrechion dros ddemocratiaeth yn y fantol.

Pan cafodd hi ei rhyddhau yn 2010, gwelodd ei phlant am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith, a gwelodd ffon symudol am y tro cyntaf, gan syllu yn syn arno a gofyn “Be uffern ‘di hwnna?”, gofynnwyd iddi hefyd “Sut oedd hi’n teimlo rŵan ei bod hi’n rhydd?” atebodd drwy ddweud “Er fy mod wedi bod o dan glo, roeddwn ni dal yn rhydd, roedd fy meddyliau, syniadau, dal yn rhydd yn fy mhen, dyna mae rhyddid yn golygu i mi, doedden nhw (milwriaeth Thein Sein) methu rheoli'r rhyddid oedd gennai yn fy mhen, fyny fan hyn (gan bwyntio at ei phen)” geiriau sydd wedi fy nghyffwrdd i am byth.

Difyr oedd y ffyrdd roedd hi’n diddanu ei hun yn ei chartref tra roedd hi dan glo, chwaraeodd y piano a darllenodd llyfrau ly roedd Ghandi wedi ysgrifennu, a ysgrifennodd ei eiriau dros y tŷ i gyd. Felly, ia, dwi hefyd wedi prynu hunangofiant Ghandi hefyd ynghyd sawl llyfr am a gan Aung San Suu Kyi, sydd hefyd yn cael cryn effaith ar fy mywyd ar hyn o bryd.

Dw ni’m pam fy mod wedi sgwennu hyn lawr, siŵr o fod achos fy mod eisiau cael ryw faint o hanes Aung San Suu Kyi drwy’r cyfrwng Gymraeg, ac efallai hyd yn oed dechrau grŵp ymgyrch yng Nghymru i gefnogi galwad Burma dros ddemocratiaeth.

Dim fy mod yn arbenigwr ar hanes Burma, ond dwi’n gobeithio denu mwy o bobl yng Nghymru i gymryd rhan a chefnogi’r ymgyrch dros ddemocratiaeth i Burma neu yn syml i ddysgu ychydig am hanes y wlad sydd wedi cael ei chaethiwo gan filitariaeth. Os hoffech mwy o wybodaeth edrychwch ar wefan amnesty, neu safle gwela BurmaCampaignUk, cewch hanes a phroffail Aung San Suu Kyi ar wefan y BBC.