Friday 14 January 2011

Dw i ffansi tatŵ

Dw i 'di bod yn ystyried cael tatŵ ers dros flwyddyn wan, es i ymholi i'r parlwr tatŵ lleol am gael llun o Bob Marley yn chwarae gitâr ar yng nghefn ; hyn ges i'n ymateb

Dyn Tew sgeri: "Are you sure? It's a very big potrait love" mewn ton rhybuddiol.

A dyma fi’n ystyried a meddwl; Os yw’r dyn mawr tew yma’n rhybuddio fi beidio a gwneud rhywbeth mor wirion, well i mi beidio!!

Felly es i adre ac anghofio am y peth; ond wnes i ffeindio blog diddorol iawn am datŵs addas ar gyfer merched a dod ar draws y tatŵ yma:


Dw i wrth fy modd hefo’i felly am fynd yn nôl i’r parlwr tatŵ wythnos nesaf i holi pryd ga i apwyntiad.

Thursday 6 January 2011

Blwyddyn newydd- dechrau newydd?

Tua’r adeg yma o’r flwyddyn dw i’n tueddu i fynd yn ddigalon, fel pawb arall dw i’n siŵr, ond mae yna rywbeth am adeg yma o’r flwyddyn sy’n rhwystro fi rhag eisiau codi yn y boreau, pam? Y teimlad bod rhaid i mi newid am fod hi’n flwyddyn newydd? Ydi hyn yn arwydd fy mod yn hapus fel ydw’i a bo fi’m eisiau newid, yntau dio’n arwydd bod angen i mi newid fy mywyd? Penbleth!

Neithiwr meddyliais am rai o’r pethau bydd angen i mi ei wneud yn 2011!

1. Symud o Lanrwst a byw yn annibynnol, ond nid hawdd yw peth fel hyn oherwydd maen rhatach byw gartref, does dim rhaid meddwl am le y daw'r geiniog nesaf. Os a’i fyw lawr i Gaerdydd h.y. os gai swydd a fu gennai ddigon o bres i fyw yn hapus?. A fu gennai rywun i fyw gyda? Pam bo rai fi symud lawr i Gaerdydd pam na allai fynd i Lundain neu Gaerfyrddin, Caernarfon?
2. Mynd i deithio; ond ydw’i wir eisiau dod adref heb geiniog yn y banc a gorfod dechrau o’r newydd eto?! Yr ateb yw gweithio dramor; ond sut mae mynd ati i gael gwaith dramor? Bydd rhaid i mi ymchwilio.
3. Cychwyn cwrs newydd; rhywbeth a all fod o fudd i mi yn y dyfodol, rhywbeth a all arwain mi ar drywydd ac i ardal wahanol.

Does dim rhaid i mi wneud ru’n o’r rhain; ond gan fod fy swydd yn dod i ben mewn ychydig o fisoedd mae'n rhaid i mi ddechrau meddwl am y dyfodol, os oes gan rai ohonoch chi syniadau, gadewch i mi wybod!

Tuesday 4 January 2011

2010 y gorau ar gwaethaf

Blwyddyn Newydd dda a helo 2011, dyma restr o fy atgofion gorau a gwaethaf o 2010.

Gorau:

1. Cyfarfod bobl wallgof Nepal oedd yn bwyta dim byd ond cyri ac wyau ‘di berwi, golchi llawr hefo cachu gwartheg ac yn codi am 4 y gloch y bore i chwarae twrnamaint badminton ar y to, hwyl a sbri!
2. Dysgu sut i wneud sment (y ffordd gyntefig), adeiladu a thorri cerrig enfawr hefo morthwyl enfawr (eto yn Nepal)
3. Byw hefo gangsta o Firmingham oedd yn licio hela teigr!
4. Cael swydd gyntaf go iawn fi…sydd bellach bron a dod i ben, diolch i’r TORI-iaid.
5. Gweld Everest.
6. Dysgu Nepali a Sbaeneg; dysgu Cymraeg i blant bach Nepal.
7. Parti Llanfrothen a Pharti Caernarfon (gwallgofrwydd)
8. Gŵyl Gwydir- ennill cystadleuaeth “paper plane” yn erbyn boi golygus ( dw i’m am ddatgelu dim mwy na hynny)
9. Byw yng Nghaerdydd am fis, joies i fas draw, bwyta sosejys hefo Emma, landio mewn clwb nos ar gyfer pobl hoyw mewn “hot pants” gwallgof hefo B.M ar fy mhen-blwydd.
10. Eisteddfod Glyn Ebwy yn y glaw, mwd, cysgu ar ben concrit ym maes pebyll Maes B, cyfarfod meibion Meic Stevens, mynd ar goll hefo meibion Meic Stevens, cyfarfod sycho oedd yn dweud dim ond “Come with me to the love tunnel” wnes i’m gofyn pa dwnnel ond glywes i rywun noson cyn hynny yn son am riw dwnnel tywyll oedd yn cael ei alw’n “ The Rape Tunnel”
11. Ffrainc; un chwydfa fawr; torri mewn i wŷl twmpath Ffrengig, cyfarfod boi o’r enw Raphael oedd yn mynd i bobman yn ei fan hefo’i gi rhywiol a chantores opera! Gweld Richard yn disgyn ar ei ben ôl yn y glaw yn Disneyland. Bwyta caws wnes fod o’n dod allan o’n nghlustiau, a finnau’n trio defnyddio’n Ffrangeg “Je’m appelle au toliet?” ia trio gofyn lle oedd y toilet oeddwn i ond yn hytrach yn mynd o gwmpas y twmpath Ffrengig yn dweud wrth bawb mae enw fi oedd “toilet”, damia!
12. Deffro ar ben air-bed yn WAKESTOCK hefo 3 hogyn del, cofio dim ond bod nhw’n dod o Fae Colwyn.
13. Gweld Plan B yn Wakestock a Tiny Tempah a Chasing Statues, nice!
14. Gweld Dizzee Rascal a Florence and the Machine yn y Big Weekend.
15. Ennill tocynnau Big Weekend.
16. Gweld Oscar ci newydd Nain am y tro cyntaf, cyffrous.
17. Parti yn y Gogledd hefo Merched Tan y Castell eithrio Jejehead a Leusa Lejand a Gwenno!
18. Gwisgo fyny ‘tha Whoopie Goldberg!
19. Syrthio mewn cariad hefo Iwan Rheon a ambell i “superstar”arall.
20. Gweld y postmon yn cydiad yn box set “Misfits”, teimlad cyffrous!
21. Bwyta fy stecen gyntaf ar ôl dychwelyd adref o Nepal.
22. Neidio mewn i’n ngwely ar ôl dychwelyd adref o Nepal.
23. Diwrnod y cyhoeddwyd bod gan yr Iaith Gymraeg statws Swyddogol yng Nghymru.
24. Cael fy achub gan midget ar ôl i mi ddisgyn allan o’r raft yn Nepal.
25. Jeje a Leusa yn dychwelyd, doedd byw hebddyn nhw am 5 mis ddim yn hawdd!


Gwaethaf;

1. Deffro yn Llanfrothen; yn drewi o oglau mwg ac yn rhewi bron i farwolaeth.
2. Cael gwybod bo fi’n colli fy swydd ym mis Ebrill.
3. Torïaid yn dod i rym ac yn difetha pob dim, dim S4C, dim Swyddi, dim gobaith.
4. Cymryd y swydd sydd gennyf ar hyn o bryd wedyn ychydig o eiliadau wedi i mi dderbyn y swydd cefais alwad i fynd am gyfweliad hefo’r BBC, damia.
5. Richard a Sion Brit yn chwydu dros fy ffon yn Ffrainc, maen capwt!
6. Jeje a Leusa yn mynd a’n gadael ni gyd diwedd mis Mawrth, bw hw!
7. Gweld bwbis Awel a Emma.
8. Chwydu yng nghiw bysiau WAKESTOCK o flaen pawb.
9. Chwydu yn lolfa tŷ Tudur Stwnsh a lolfa tŷ Sarah ym Manceinion.
10. Hangovers 2010 i gyd.
11. Gweld teigr yn Nepal.
12. Boddi o dan raft yn Nepal.
13. Yr holl bibo wnes i yn Nepal.
14. Benjamin ci Nain yn marw.
15. Sioned yn dwyn yng nghar i….!
16. Damwain car Noson Calan (styc mewn ffos.)
17. Cysgu ar goncrit Maes B- Eisteddfod Glyn Ebwy.
18. Mynd ar goll yn Kathmandu.
19. Trip Ikea (2011 ddigwyddodd hyn)