Thursday 24 June 2010

Osborne ar Gyllideb!

Cyllideb!
Wel wir, bellach ma'r gyllideb wedi bod ac rwan da ni'n disgwyl i weld ei effaith.

T.A.W fyny 20%: Gwych i fusnesau sy'n ennill dros 60,000 y flwyddyn, wehei pobl cyfoethocaf y wlad yn manteisio, pobl dlotaf y wlad yn dioddef!

Rhewi budd-daliadau teulu: Osborne yn rhewi budd-dal plant am ddwy flynedd; o ystyried bod 60% o swyddi Cymru'n cael ei ariannu gan y llywodraeth a bo'r llywodraeth yn gwneud 25% o doriadau yn y sector cyhoeddus, bydd mwy o bobl Cymru'n ddi-waith ac yn derbyn budd-dal isel iawn! Gwelwn batrwm yn datblygu y cyfaethog yn elwa ar tlodion yn dioddef!!

Dw i'n depressed!!

Hwyl fawr!

Sgyrsiau Call!

Su ma'i?

Mae genai ddigwyddiadau ar y gweill i godi ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd mewn gwledydd datblygiedig yn Asia a gweddill y byd! Gobeithio gall rai ohonach chi sy'n boddro edrych ar fy mlog gefnogi, drwy fynychu rhai ohonyn nhw!

Cefais sgwrs ddiddorol iawn hefo bachgen o'r pentref bues i'n gwirfoddoli ynddi am effaith cynhesu byd eang. Dywedoddbo'r tywydd yn Nepal yn afiach o boeth a fel arfer adeg yma o'r flwyddyn ma nhw fel rheol yn cael cawodydd o law; felly mae'r tymor yn cael ei alw'n "The Rice season" lle mae gwragedd a merched ifanc yn gwario lot fawr o'i hamser yn tyfu a plannu hadau reis, ond yn anffodus oherwydd effaith cynhesu byd eang, does dim reis yn tyfu'n unman, oherwydd bo nhw'm yn cael digon o law!!!

Big deal? Medda chi! Ond maer pobl yma'n dibynnu ar reis, nid yn unig ar gyfer bwydo'r teulu ond i sefydlogi economi'r wlad. Rwan bydd rhaid iddynt fewnforio reis o India, golygai hyn bod India unwaith eto'n datblygu a bo' Nepal yn parhau i ddioddef!

Cefais sgwrs am addysg y wlad hefyd; yn ol Niranjan, bachgen sydd mewn swydd dda ac wedi derbyn addysg dda, nid oes gymaint o broblem yn ardal Gorllewinol y wlad. Dywed ef bo'r pentref y bues i'n gwirfoddoli ynddi'n dlawd, ond ddim hanner mor dlawd a rhan Dwyreiniol y Wlad. Mae rhan fwyaf o'r boblogaeth sy'n byw'n Nwyrain Nepal yn anlythrennog; yn dioddef o ddiffyg maeth; does ganddyn nhw'm trefi na pentrefi datblygiedig, system ffyrdd gall. Ychydig iawn o arian sy'n cael ei neilltuo ar gyfer addysg y wlad, ar mae'r rhan fwyaf yn dewis mynychu ysgolion preifet yn ardal Kathmandu (y prif Ddinas) felly gallwch ddychmygu sefyllfa addysg y Dwyrain.

Dweud oedd ef hefyd, bod angen i'r arian sy'n cael ei roi i Nepal fynd yn uniongyrchol at addysgu athrawon,

" Does dim pwrpas adeiladu ysgolion os nad 'di safon athrawon yn cyd-fynd gyda safon yr adeiliad"medda ef!

Yn wir, tra oeddwn ni yno darganfyddais bo rhai athrawon yn yr Ysgol heb dderbyn unrhyw hyfforddiant, gan nad oedd yn hanfodol iddynt ddangos ei tystysgrif ymarfer dysgu.

Diddorol oedd yr sgwrs 5 munud ar facebook!!!

Trist iawn, gwelwn yma bod yna 2 prif achos o dlodi'n Nepal, Effaith Cynhesu Byd Eang ag Diffyg Addysg, ma na restr enbyd o achosion...felly i glywed sut y gallwch chi helpu, neu efallai bo chi'n awyddus i ddysgu mwy?....

Byddai'n edrych ar rhai o achosion o dlodi'n weddill Asia o fewn y mis nesaf, cyn cyflwyno noson hwyliog ym Morgan Lloyd ar y 30ain o fis Orffennaf, Nos Wener am 7.30y.h (Dwi'n meddwl). Dw i wrthi'n casglu cerddoriaeth Asiaidd ar hyn o bryd, lot fawr o hwyl, dwi 'di darganfod lot o gerddoriaeth "underground" hollol cwl sydd am godi chi o'ch seddi i ddawnsio!!!

Dwi hefyd yn gobeithio cynnal noson arbennig yng nghwmni Gwilym Morus ar 23ain o fis nesa, rwla'n ardal Llanrwst! Bydd nifer o bobl diddorol yn siarad am ei profiad yn Palestinia ac yn cyflwyno ffyrdd y gallech chi helpu...!!!!!


Cariad am y tro,
Ceri

Thursday 3 June 2010