Thursday 1 April 2010

Helow!

Dw i bellach yn nol ers bythefnos, a dw i'n bored yn barod! Er ma genai ddigon o waith codi ymwybyddiaeth o'r stwff dwi 'di ddysgu tra o ni ffwrdd! Dw i'n gobeithio neith y profiad dwi 'di dderbyn hefyd yng nghalluogi i gael swydd mewn maes lle gellai godi ymwybyddiaeth o dlodi byd eang a anghyfiawnder cymdeithasol!

Maen rhyfedd bod adre de, dyma rhai o'r profiadau dwi 'di gael ers i mi gyrredd adre!

Ffarmwr: "wyt ti dal hiv/malaria" ateb swta gena i "na"
Ffarmwr: "Lle ma Nepal dwa?" wnes i'm ateb!!
Dwi hefyd 'di bod yn hollol conffiwsd ers i mi gyrredd adre oherwydd effaith y jet lag, deffro am 5 y bore bron llwgu, angen toilet ac yn methu 'chantio Kakaa'n 'y bore!
Methu deall pan bo pawb yn galw fi'n Ceri'n hytrach na Dipaaa!!
Dweud Danyabaad yn hytrach na diolch mewn siopa!
Deffro'n y bore a meddwl "wow pam bo'r tir yn wyn" a sylweddoli bod hi 'di bwrw eira, casau eira!
Rhyfedd hefyd 'di deffro i dy gwag, odd y ty'n Nepal yn llawn pobl o hyd, er bod o'n mynd ar yn nyrfs i, dwi'n methu bwrlwm ar habits unigryw odd gennyn nhw e.e rhoi colur ar y fuwch, he he!!
Byta bran flakes i frecwast, profiad anhygoel!
Yfed dwr allan o dap heb feddwl "wypsi"
Siarad ar y ffon, profiad od ar y dechrau!

Ma'r bywyd sydd genai yma'n Nghymru'n wahanol iawn, er yr hyn dw i'n werthfawrogi ers i mi ddychwelyd, ydi'r hawliau sydd gena ni fel merched, y cyngor IE Y CYNGOR, o leiaf bo gena ni fagiau a biniau sbwriel a ffyrdd, er bo'r A470'n broblem ma'n well na'r ffyrdd sydd ddim yn bodoli rhwng cymunedau'n Nepal!.Dwr poeth, hunanol ond maen braf cael cawod a peidio meddwl "aaaaaahh goli woli dw i'n mynd i farw". Dw i hefyd yn gwerthfawrogi siarad Cymraeg, er bo fi ond i ffwrdd am 10 wythnos, chydig o Gymraeg ges i gyfle i siarad! Dw i hefyd, wel dwi'n gobeithio bydd y wasg yn cefnogi'r hyn sgennai ddeud am fy mhrofiad, dydyn mhrofiad i dda i ddim os wna gai gyfle i godi ymwybyddiaeth o dlodi byd eang! Ma angen cic yn din i rai aelodau o'r llywodraeth!!

Aaaa ow ie oes gan rywun ddiddordeb fy'n nghyflogi? Cysylltwch!! Dw i'n frwdfrydig, egniol ac yn sgint! Dim byd anweddus dwi'n licio pob dim i fod 'above bored' !

Cerina!!!

No comments:

Post a Comment