Wel dw ni' m pam bo fi'n dal i sgwennu ar hwn... gan bo fi'm yn gwneud dim byd o werth dim mwy a dw i'n sicr ddim ar daith fawr llawn antur, ond dw i di cael wythnos reit ffyni, meddwl sw ni'n adrodd yr hanes!
Nos wener- Bues i mewn gig yn Morgan Lloyd, Caernarfon, wedi i mi gyrredd dyma fi'n parcio'n nghar mewn lle tawel wrth ymyl y castell, ges i gadarnhad gan fownser mowr tew "yeah it will be safe there love, traffic police don't come out on bank holidays!" Bril so dyma fi'n parcio'n gwybod bo'n nghar i'n saff a rhedeg i Black Boy'n yn y glaw (wrth gwrs), llowcu peint neu ddau, meddwi a landio'n Morgan Lloyd!! Gwylio Iwan Cowbois yn chwara'i gitar ar ei gefn am awr, Yr Ods, sy'n fand da gyda'r llaw, just bechod bo nhw'n copio'r hyn sydd yn y siartiau'n hytrach na cynhyrchu rhywbeth newydd, gwreiddiol, ma gen chi dalent dwds, defnyddiwch o!!! A dyna fo, cwyno'n lle kebab am y "lack of chicken in my chicken kebab, kebab man (wps)" a dal tacsi i Felin Heli ond ie wnes i ofyn i'r dyn tacsi fynd a fi holl ffordd i Vietnam am ddim, oce naddo, dim ond i Felin Heli ond doedd y diawl ddim am fynd a fi i fanno am ddim chwaith, cheeky boy!!!!
Bore Sadwrn- Deffro, awtsh, hangover gwaetha erioed! Ond roedd rhaid i mi godi achos o ni 'di bwcio i ni gyd fynd i white water rafftio ar ol cinio, syniad da ar y pryd! Pa ry'n bynnag, codi, golwg y diawl a rhedeg i'r 'bus stop' yn edrych 'tha hwran a hithau'n benwythnos y pasg, twt twt!! Dal bws hefo accountant 2 be Richard Thomas Evans, cyrredd y fan lle o ni 'di parcio'n nghar a gweld marc reit amlwg ar y llawr yn deud "NO PARKING", wps! Ond yn waeth fyth roedd Simon y Saxo ar ben ei hun bach a corns mawr hyll coch o'i gwmpas o! Damia, ond ges i'm ticed a ddaru fi a Rich lwyddo'i ddenig, heb bod neb yn gweld! A dyma fi'n dysgu'n ngwers i beidio gwrando ar fownsars mawr tew!!
Prynhawn Sadwrn- Son am stress, doedd gen i'm batri, Rich dim signal, neb rhif Awel (y ferch oedd wedi trefnu bo ni'n cyrredd Tryweryn erbyn 1) ond wrth gwrs o ni'n hwyr, hollol stressed!!! Ond wedi i ni gyrredd a ffeindio rwla'i barcio dyma fi'n cloi'r car, agor boot i estyn stwff fi a Rich, ond aeth hi'n banic steshyns eto, "Rich dw i 'di cloi goriade fi'n y blydi car", so dyma fi'n stwffio' drwy'r twll yn y boot mewn i'r car a sylwi wedyn bo fi 'di gadael goriade'r car yn clo'r bwt!!!! Damia!!
Hwyrach Prynhawn Sadwrn- Cerdded mewn i'r Ganolfan, syllu ar fechgyn del a meddwl "dyma lle'r gwaetha i drio fflyrtio a finne am orfod gwisgo wet suite", felly wnes i'm fflyrtio, cerdded mewn i'r ystafell newid, rhoi'r wet suite ar ffordd chwith, newid o'n nol i'r ffordd oedd o fod! Cerdded allan yn edrych fel complete twat, neu fel ddudodd John "reject superhero"! ha! Eniwe ar ol fymryn o gachu brics a siarad am farw a stwff, dyma ni'n neidio mewn i'r gwch a dysgu sut i nofio, rhwyfo, achub ein hunain (iep)!!! A wedyn dyma ni'n white water rafftio'i gan wneud y wynebau mwyaf dychrynllyd!!! Ma gen i luniau, roia'i nhw fyny wan!!
Dydd Sul- Byta wyau pasg!
Dydd Llun-Byta wyau pasg!
Dydd Mawrth- Cytuno i fynd i rwla i harasio A.S 2 be am gynhesu byd eang.
Dydd Mercher- Cytuno i siarad hefo Jonsi am Nepal!
Dydd Iau (fory)- Cyfarfod Branwen Niclas i drafod yr hyn wnes i ddysgu yn Nepal a be allai wneud i helpu arafu tlodi byd eang (edrych ymlaen)drwy godi ymwybyddiaeth a annog pobl ifanc i fynd ati i frwydro i goncro tlodi byd eang, unwaith am byth!! Byddai hefyd ar yr radio hefo Jonsi am 3:15, yn son am Nepal ac eto'n trio annog pobl ifanc wirfoddoli hefo Platform a chymryd diddordeb mewn codi ymwybyddiaeth o achosion tlodi byd eang!!!
Dydd Gwener- Usual, peint yn rwla, ymlacio, chwilio am waith!!
Reit ho!!!
Cerixxx
No comments:
Post a Comment