Helo!!!
Reit ma genai lot i ddeud, dwi di trio cofio pob dim dwi di neud hyd yn hyn yn ym mhen achos ma'r holl feiro' dwi di brynu 'di diflannu!!!
Oce dechreuai drwy son am fy'n nheulu newydd (paid a poeni mam a sioned a elwyn dwi di dal yn caru chi, your my number one's). Pa ry'n bynnag dwi'n rili mwynhau byw hefo fy'n nheulu newydd, ma nhw'n glen ac yn llawn hwyl, yn enwedig y Nain, maen neud fi chwerthin lot, er bo fi'm yn deall gair maen ddeud! Maen cadw rhoi stwff yn fy llaw, fel tywel, reis, tanjarins! Ffyni!! Ma'r fam yn ferchetaidd iawn er bod hi'n ffermio drwy'r dydd a golchi llestri a coginio , maen brydferth iawn! He he nithiwr ges i sgwrs rili neis hefo'i am addysg yng Nghymru, siarad am Mam a Sioned, siarad am Elwyn a doedd hi methu deall pam bo mam a dad di gwahanu a pam bo mam hefo Elwyn, wnes i drio egluro bo cael ysgariad yn eitha cyffredin adre'n Nghymru! Ond yn Nepal ma bron a bod yn anghyfreithlon achos yr holl broses o drefnu priodasau, er boi
'i phriodas hi di cael ei drefnu maen ymddangos yn hapus iawn hefo'i gwr! Ma nhw'n amlwg yn caru ei gilydd!
Peth arall sydd wedi fy'n nharo yma'n Nepal ydi'r ffordd ma'r ferch/dynes yn cael ei trin tra mae ar ei mislif, ma'r ddynes neu ferch yn cael ei gyrru i ffwrdd i fyw mewn stafell am 10 diwrnod ac yn ystod 4 diwrnod o'r 10 diwrnod maen symud i'r caste "untouchable'! Pan glywishi am hyn o ni fel " wow", ond ma'r merched yn Nepal yn mwynhau'r cyfnod achos ma'n gyfle iddyn nhw gael gorffwys, peidio coginio a mwynhau cwmni merched eraill! Maen gyfle iddyn nhw feddwl a hel meddyliau, ar ol iddyn nhw egluro o ni fel, ow ie syniad da! Sa'n eitha cwl sa hyn yn digwydd yng Nghymru, deg diwrnod i ffwrdd a llonydd am 10 diwrnod bob mis? Cwl de? Er ma na lot o deuleuodd yma'n Nepal yn dewis anwybyddu'r rheol yma erbyn hyn!!
Sgenai'm llawer o ddim byd arall i ddeud ar hyn o bryd!m Gobeithio mynd i Kathmandu wknd ma, am hwyl! A gweld ychydig o'r ddinas tu allan i Themal ( ardal twristiaeth) dwi awydd cyfarfod ychydig o hippies! he he!
Hwyl am y tro!!!
Cerixxxx
No comments:
Post a Comment