Dim newydd rili, da ni gyd di bod yn eitha sal ar ol bod yn Patan Durbar Sq, odda ni gyd fel yn meddwl bo ni di cael y pryd gora o fwyd erioed. 3 crempog yr un! Ha ond yr arglwydd dwi di bod yn pibo fel llo ers dydd sul, dwin dechra gwella ond dwi dal bach yn dodjy! Maen job bod yn sal yn Nepal, achos does na'm byd yn lan! Dwr budur, mwd yn bob man! Felly maen anodd teimlo'n iach unwaith eto!Ond dwin dal i fwynhau er gwaetha'r salwch!!
Ma'r ty dwi byw ynddo fo yn wych, dwin dod ymlaen hefo pob aelod o'r teulu a dwin dechra cymryd rhan yn ddylestwydda'r ty, wnes i helpu Kaki (mam) i olchi sosbenni noson o'r blaen a darganfod bo nhw'n defnyddio mwd i lanhau'r llestri, iach! Felly wnes i neud yn siwr bo fi'n sgwrio nhw'n lan lan lan!!!
Urmm, dwin meddwl gai odro's fuwch heno, wyhyw! Dw ni'm be'i neud dros y penwythnos, kathmandu neu aros yn Lamatar a cerdded y mynyddoedd! Dw ni'm wnai adael chi wbod dydd mawrth nesa be'n union a lle fyddai di bod!!
Cerixxx
No comments:
Post a Comment