Monday 3 October 2011

Seimon y Saxo.

Helo gyfeillion.

Heb sgwennu dim ar hwn ers sbel....achos mae fy mywyd wedi bod braidd yn wallgof yn ddiweddar.

Ta waeth dyma’r diweddaraf ‘in the life of Ceri Phillips’.

Y stori diweddaraf ydy hanes Seimon y Saxo yn marw ar yr A470. Deffrais ar fore dydd Sul hollol braf ym mis Hydref (roedd hi’n 30 gradd Celsius, torrodd y byd record newydd yn ôl Derek y dyn tywydd). A dyma fi’n cysylltu â Sioned Clwyd

“Hei Sioned, ffansi road trip yn Seimon y Saxo?”

Penderfynais fynd a ni i Aberhonddu am ginio dydd Sul. Cyrhaeddon ni Pontypridd, a finnau’n gweiddi mên hapusrwydd;

“Iei dw i newydd basio Mercedez benzn Sioned, woop woop!!!”

Wedyn dechreuodd y car wneud y sŵn rhyfeddaf “Clic, clic, clic, clic”. Dyma fi’n dweud wrth Sioned

“Duwcs be’ di’r sŵn ’ma sy’n dod o’n nghar i? Wna i stopio’n munud i roi dwr iddo fo. Popeth yn iawn dwi’n meddwl achos does na’m mwg yn dod allan ohono fo”

Dau funud yn ddiweddarach, car yn dechrau arafu, edrychais yn y drych a gweld bod yn nghar i’n mygu.....llwyth o mwg yn dod allan o’r ‘exhaust’. Doedd gen i’m syniad be’i wneud, stopiais ar yr ‘hard shoulder’.

Rhoddais ddŵr yn y car, a mynd yn ôl mewn gan obeithio y buasai’r car yn ailddechrau, dim sŵn, dim byd yn digwydd. Edrychodd Sioned arna i, edrychais ar Sioned a gweiddi “SHIT”.

Arhosodd ni yn y car i feddwl a cachu’n hunain bob tro oedd car yn gwibio heibio. Meddyliais a penderfynais mae’r peth gorau i wneud oedd ffonio Nain i ofyn am ei rhif aelodaeth RAC.

“Okay love, we’ll be there within the hour, please step out of the car!!”

Es i’r bwt a estyn sach gysgu ac eisteddodd fi a Sioned ar ochr yr A470 am awr yng nghanol dail poethion. Tua hanner awr yn ddiweddarach dyma ni’n clywed car ar ochr arall y ‘dual carrigeway’ yn wneud yr union ru’n sŵn a be’ oedd yng nghar i’n wneud, munud nesaf dyma fo’n stopio ar yr ‘hard shoulder’ hefyd. Tua tri chwarter awr wedyn dyma citroen saxo bach gwyn ‘P’ reg yn gwibio heibio yn canu corn fel diawl ac yn gweiddi “OI OI”, do’n ni ddim yn ‘amused’ bod gan rywun arall citroen saxo hŷn na fi yn gwibio heibio.

Cyrhaeddodd yr RAC, edrychodd ar y car a dweud yn syth

“Hmm , your cars dead love, I’ll give you a scrapyard number”

Seimon wedi marw.

Cafodd ni’n tywys holl ffordd adref gan y fan RAC, a finnau’n cachu’n hun yn trio steerio’r saxo ar yr un pryd ar boi RAC. Cyrhaeddon ni Treganna ac ‘typical’ oedd criw Plaid Cymru allan yn dosbarthu pamffledi, bob un ohonyn nhw’n piso chwerthin yn gweld Seimon yn cael ei dywys gan y fan RAC.

Wedi digalonni’n llwyr dyma fi’n cyrraedd Caerdydd a troi at Sioned

“Pub?”

Aethon ni i’r mochyn du, 4 awr yn ddiweddarach cyrraedd yn ôl i’r tŷ a cofio bod gynnai ddillad ar y lein. Tynnais y dillad oddi ar y lein ond baglais dros yn nicyrs yn a brifo’n mhen glin.

Deffrais bore ‘ma efo paced O sushi gwag wrth yng ngwely a rhif dyn ‘scrapyard’. Es i allan I’r ardd a gweld bod gynnai lwyth o nicyrs ar llawr yr ardd...embarassin.

Os gwyddoch chi am unrhyw un sy’n gwerthu car...rhowch floedd.

No comments:

Post a Comment