Thursday 6 January 2011

Blwyddyn newydd- dechrau newydd?

Tua’r adeg yma o’r flwyddyn dw i’n tueddu i fynd yn ddigalon, fel pawb arall dw i’n siŵr, ond mae yna rywbeth am adeg yma o’r flwyddyn sy’n rhwystro fi rhag eisiau codi yn y boreau, pam? Y teimlad bod rhaid i mi newid am fod hi’n flwyddyn newydd? Ydi hyn yn arwydd fy mod yn hapus fel ydw’i a bo fi’m eisiau newid, yntau dio’n arwydd bod angen i mi newid fy mywyd? Penbleth!

Neithiwr meddyliais am rai o’r pethau bydd angen i mi ei wneud yn 2011!

1. Symud o Lanrwst a byw yn annibynnol, ond nid hawdd yw peth fel hyn oherwydd maen rhatach byw gartref, does dim rhaid meddwl am le y daw'r geiniog nesaf. Os a’i fyw lawr i Gaerdydd h.y. os gai swydd a fu gennai ddigon o bres i fyw yn hapus?. A fu gennai rywun i fyw gyda? Pam bo rai fi symud lawr i Gaerdydd pam na allai fynd i Lundain neu Gaerfyrddin, Caernarfon?
2. Mynd i deithio; ond ydw’i wir eisiau dod adref heb geiniog yn y banc a gorfod dechrau o’r newydd eto?! Yr ateb yw gweithio dramor; ond sut mae mynd ati i gael gwaith dramor? Bydd rhaid i mi ymchwilio.
3. Cychwyn cwrs newydd; rhywbeth a all fod o fudd i mi yn y dyfodol, rhywbeth a all arwain mi ar drywydd ac i ardal wahanol.

Does dim rhaid i mi wneud ru’n o’r rhain; ond gan fod fy swydd yn dod i ben mewn ychydig o fisoedd mae'n rhaid i mi ddechrau meddwl am y dyfodol, os oes gan rai ohonoch chi syniadau, gadewch i mi wybod!

1 comment:

  1. Tyd i fyw yn gnarfon. Os eith pres yn brin wedyn geidi fyw ar soffabed fi a John!

    ReplyDelete