Tuesday, 12 July 2011

Bywyd Newydd Ceri

Helo,
Heb fod ar hwn ers sbelen go dda, sy'n golygu bod gen i mwy na digon i rannu gyda pwy bynnag sy'n dilyn hwn.
Reit, dydd Iau dwetha wnes i ddychwelyd o'n ngwyliau yn Montenegro/Croatia. Un noson tra o ni'n Montenegro ges i ddiawl o seshwn mewn tref o'r enw Budva, chwydais fy mherfedd i fyny bore wedyn (go iawn). Ar ôl y chwydfa roedd rhaid i mi deithio 3 awr ar fws i Dubrovnik, sy ddim yn lot o amser o gwbl, ond efo fy mammoth hangover, roedd y daith yn hunllef.
Oherwydd yr hangover yma ges i fy’n ysbrydoli i newid agweddau o fy mywyd ac hynny mewn ffordd realistig iawn. Peidiwch â phoeni dw i heb gael troeadigaeth, ac bydda i dal yn yfed wnes bo’ fi’n chwydu fy mherfedd fyny yn y dyfodol dw i’n siŵr.
Yr hyn dw i ’di penderfynu wneud ydy yfed 0 yn ystod yr wythnos, sy’n dipyn o dasg wythnos yma ac dw i ’di methu yn llwyr. Ddoe es i ‘Clwb dydd Llun Pubs Caerdydd bob yn un’ a yfed dau fotel o Corona, nos Sul es i’r gwdihw a yfed 3 botel o Corona, a tra o ni’n ‘ Clwb dydd Llun Pubs Caerdydd bob yn un’, landiodd ffrind wnes i’n ystod twmpath ar fy ngwyliau yn Ffrainc y llynnedd efo dau grat o gwrw sy’n 7.2% yr un, uh oh!!!
Ond os gwerthuswn ni’r paragraff uchod dw i wedi gwneud peth da i fy’n nghorff ac mae hynny oherwydd fy mod wedi ymuno a ‘weight watchers’. Cyn i mi ymuno a ‘weight watchers’ buaswn ni wedi yfed 2 beint o lager nithiwr yn hytrach na corona, dydy Corona ddim hanner mor wael i mi ac dydyn nhw ond yn 2 pwynt yr un (pwyntiau weight watchers) . Ac buaswn ni siwr o fod wedi bwyta rhywbeth llawn brasder I swper yn hytrach na pei pysgodyn iachus iawn.
Ar ben hyn i gyd rwyf hefyd wedi ymuno a hanner marathon Caerdydd, sy wedi codi peth ofn arna i, ond dechreuais yr hyfforddiant neithiwr a rhedeg 2.6 millitr. Llwyddais i wario £150 ar ddillad rhedeg cyn mynd ati i ddechrau hyfforddi, ond ma’r trainers sy werth £87 yn fendigedig ac dw i’n rhedeg yn well ynddyn nhw, sy’n gret!
Bydda i’n rhoi hanes yr hyfforddiant i fyny ar hwn, gan obeithio fydda I’n dal ati.
Dw i hefyd wedi dechrau defnyddio fy meic ogwmpas Caerdydd, dw i ’di bod yn ei ddefnyddio ers dros mis bellach a ma’n fendigedig, rwy’n beicio i’r gwaith, i ganol dref, bob man!! Maen golygu fy mod yn safio £15 yr wythnos ar docynnau bws, sy’n safio £60 y mis i mi a £720 y flwyddyn!!!!!
Felly dyna’r diweddaraf; peidiwch a panicio a peidiwch a meddwl fy mod wedi callio, dw I’n mynd allan efo criw gwaith fory a ma’r seshwn yn dechrau am 5 o’r gloch nos fory, wps!
Hwyl am y tro.
Ceri

Thursday, 2 June 2011

Fy Tatw syth ar ol i mi wneud o!

Fy mywyd hyd yn hyn yng Nghaerdydd

Yn ystod yr wythnos dw i'n gweithio i gwmni o'r enw Acen.

Ar benwythnosau rwy'n mynd i'r gwdihw.

Weithiau dw i'n mynd i'r gwdihw yn ystod yr wythnos.

Ges i tatw tua mis yn nol.

That is all!

Thursday, 24 March 2011

Byw yng Nghaerdydd!

Rwyf bellach ar fy mhedwerydd wythnos o fyw yn y ddinas, ydy maen le braf iawn! Yr hyn dw i'n licio am fyw yng Nghaerdydd ydy bod pob dim o fewn hyd braich h.y.

Cadwaleders
Sushi
Indian
Chinese
Bingo
Cinema

Dw i hefyd wedi cyfarfod â ambell syyyylebratiii:

Lleoliad Pwy Cwot
Canolfan Chapter Hywel Gwynfryn I’m not educated in beer…
Duke of Clarence Mei Gwynedd Ydy chi’n gwerthu gitars?
Duke of Clarence Gwyn Loader Dach chi’nm fyw ar raglen byd ar bedwar peidiwch a rhegi.

Wednesday, 2 February 2011

Refferendwm 2011

Wrth gwrs fy mod i am bleidleisio "Ie Dros Gymru"; gan fy mod i'n casáu’r Torïaid ,rwyf hefyd yn anghytuno â’r rhan fwyaf o'r deddfwriaethau sy'n cael eu pasio yn Sant Steffan, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn amherthnasol i Gymru gan fod gennym weledigaeth wleidyddol wahanol.

Ond yr hyn sy'n peri gofid i mi yw'r ffaith bod Cymru yn llawn mewnfudwyr, a rheiny fel arfer yn bobl dosbarth canol ,Toriaid rhonc, Saesnig snobyddlyd sy'n dod i Gymru i ymddeol; does ganddyn nhw dim clem am wleidyddiaeth Cymru na'r sefyllfa'r iaith e.e. Bues i am swper neithiwr i westy crand yng Nghonwy; ac roedd y lle'n llawn o'r bobl rwyf newydd ddisgrifio uchod a dyma fi'n clustfeinio ar un o'i sgyrsiau, dyma glywes i;

Gŵr: What do you think of this referendum lark then?

Gwraig: What is that? I've recieved some sort of voting card.

Gŵr: It's a referendum that will allow Wales to recieve more powers.

Gwraig: I'll be voting no to that; the Welsh Assembly is a joke an embarassment to Wales.

Gŵr: I don't want to be controlled by South Wales, they don't speak the same language as us here in the North, a guy from South Wales lives next door to me and his Welsh is a different language to what they speak here. They have to different langugages in Wales; how can they commnunicate?

Gwraig: I didn't know that; I'll be throwing my voting card in the bin I think.

Gŵr: So will I.

Ar fy llw dyna glywes i; o ni'n gandryll yn cerdded o'r Gwesty, beth yw eironi y sefyllfa yw'r ffaith nad ydyn nhw'n medru siarad gair o Gymraeg heb son am ddeall y gwahaniaeth rhwng y deheuwyr ar gogleddwyr ac yn rhu dwp i sylweddoli bo gennym ni dafodiaethau gwahanol yma'n Nghymru fel sydd ganddyn nhw' yn y Saesneg yn Lloegr. Eironi arall yw'r ffaith bod rhan helaeth o'n deddfwriaethau ni yn cael eu pasio yn Sant Steffan sydd cannoedd o filltiroedd i ffwrdd o Ogledd Cymru, a gallaf gadarnhau nad yw Sant Steffan yn siarad yr un iaith a ni yma yng Nghymru nac yn rhannu'r un weledigaeth wleidyddol, mae agwedd yr Gŵr ar Wraig uchod yn cadarnhau hynny.

Felly er mwyn y nefoedd; os ydych chi eisiau gweld Cymru yn cael yr hawliau mae'n haeddu er mwyn pobl Cymru a'i buddiannau; er mwyn eich plant, ein hiaith a dyfodol ein Cenedl, pleidleisiwch "Ia" ar y 3ydd o Fawrth, mae angen cymaint o bobl ac sy'n bosib i rwystro agwedd y Gŵr ar Wraig uchod lygru Cymru.

Friday, 14 January 2011

Dw i ffansi tatŵ

Dw i 'di bod yn ystyried cael tatŵ ers dros flwyddyn wan, es i ymholi i'r parlwr tatŵ lleol am gael llun o Bob Marley yn chwarae gitâr ar yng nghefn ; hyn ges i'n ymateb

Dyn Tew sgeri: "Are you sure? It's a very big potrait love" mewn ton rhybuddiol.

A dyma fi’n ystyried a meddwl; Os yw’r dyn mawr tew yma’n rhybuddio fi beidio a gwneud rhywbeth mor wirion, well i mi beidio!!

Felly es i adre ac anghofio am y peth; ond wnes i ffeindio blog diddorol iawn am datŵs addas ar gyfer merched a dod ar draws y tatŵ yma:


Dw i wrth fy modd hefo’i felly am fynd yn nôl i’r parlwr tatŵ wythnos nesaf i holi pryd ga i apwyntiad.

Thursday, 6 January 2011

Blwyddyn newydd- dechrau newydd?

Tua’r adeg yma o’r flwyddyn dw i’n tueddu i fynd yn ddigalon, fel pawb arall dw i’n siŵr, ond mae yna rywbeth am adeg yma o’r flwyddyn sy’n rhwystro fi rhag eisiau codi yn y boreau, pam? Y teimlad bod rhaid i mi newid am fod hi’n flwyddyn newydd? Ydi hyn yn arwydd fy mod yn hapus fel ydw’i a bo fi’m eisiau newid, yntau dio’n arwydd bod angen i mi newid fy mywyd? Penbleth!

Neithiwr meddyliais am rai o’r pethau bydd angen i mi ei wneud yn 2011!

1. Symud o Lanrwst a byw yn annibynnol, ond nid hawdd yw peth fel hyn oherwydd maen rhatach byw gartref, does dim rhaid meddwl am le y daw'r geiniog nesaf. Os a’i fyw lawr i Gaerdydd h.y. os gai swydd a fu gennai ddigon o bres i fyw yn hapus?. A fu gennai rywun i fyw gyda? Pam bo rai fi symud lawr i Gaerdydd pam na allai fynd i Lundain neu Gaerfyrddin, Caernarfon?
2. Mynd i deithio; ond ydw’i wir eisiau dod adref heb geiniog yn y banc a gorfod dechrau o’r newydd eto?! Yr ateb yw gweithio dramor; ond sut mae mynd ati i gael gwaith dramor? Bydd rhaid i mi ymchwilio.
3. Cychwyn cwrs newydd; rhywbeth a all fod o fudd i mi yn y dyfodol, rhywbeth a all arwain mi ar drywydd ac i ardal wahanol.

Does dim rhaid i mi wneud ru’n o’r rhain; ond gan fod fy swydd yn dod i ben mewn ychydig o fisoedd mae'n rhaid i mi ddechrau meddwl am y dyfodol, os oes gan rai ohonoch chi syniadau, gadewch i mi wybod!