Friday, 24 September 2010

Question Time!

Rocky Horror
Drama hollol boncyrs gyda'r actorion i gyd yn boncio'i gilydd ar y llwyfan boed yn ddynion, merched neu'r ddau!!

Dyma'r geiriau buaswn ni'n ddewis i ddisgrifio'r ddrama:

Lust
Cariad
Rhywiol
Gwyddonol
Biolegol
Lliwgar
Rhywiol
Gwyllt
Gwych
Gwallgo
Gwahanol
Agoriad Llygaid
Noeth
Dychmygol
Anghreadadwy
Gethin Jones*****

Mr Gethin Jones yn gweiddi "Sugna fy'n nh***" i'r gynulleidfa a merched yn ateb "Okay then, three some!!!"! Er bo'r holl hantics ar y llwyfan wedi fy'n nychryn gymaint wnes bo' fi methu cysgu'n gall neithiwr, doedd be welis i ar y llwyfan dim byd i gymharu a beth oedd yn y gynulleidfa, dynion canol oed mewn trons sgleiniog tynn a merched yn eu 70au mewn fish nets tights a bra's a nicyrs a dyna ni!! Craici a finne mewn dillad reit gall, jeans, siaced a bwts!!

Casgliad: Er mwyn profi gwychder a gwallgofrwydd Rocky Horror maen rhaid i chi brofi'r profiad eich hunain. **Rhybudd** maen bwysig eich bod chi hefo meddwl agored!!!

Question Time-
Ar ol gwallgofrwydd Rocky Horror pendrefynais mae'r ffordd orau i ddod yn nol i realiti oedd i wylio rhaglen wleidyddol!!! Pwy oedd ar y panel:

St Vince Cable: Ysgrifennydd Busnes yr Cabinet, Aelod o'r Blaid Ryddfrydol/Ceidwadwyr.

John Redwood: Aelod o'r Blaid Geidwadol sef un o'r milk snatchers!

Caroline Flint- Llafur

Ian Hislop- Golygydd Private Eye

Medhi Hasan:Is-Olygydd Gwleidyddol.

Wnes i fwynhau'r sioe'n fawr; i ddweud y gwir rwyf wedi dod i'r pendrefyniad mae ryw fath o sioe "punch and judy" yw "Question Time" mewn gwirionnedd, gwleidyddion yn brwydro ac yn cystadlu yn erbyn eu gilydd:

Vince Cable: Chi yw'r bai ein bod ni'n y smonach yma'n y lle cyntaf!

Caroline Flint: Bydd y wlad yn smonach siwr o dan arweinyddiaeth y glymblaid! Rydych chi'n gwneud toriadau enfawr ar adeg lle mae'r economi ond newydd ddechrau datblygu,dydych polisiau chi ddim yn gwneud synnwyr!

Vince Cable: Chi oedd wedi gor-wario (er gwaetha'r ffaith bod y glymblaid di gwario dwbl yr arian gwariodd y blaid Lafur mis Awst llynnedd)

Medhi Hasan (yn taro pawb hefo'i forthwyl): Da chi gyd yn hoples does na ry'n ohonach chi'n gwybod sut i redeg y wlad, Lib Dems sy'n colli cefnogaeth gan nad oes ganddyn nhw asgwrn cefn "Yes conservatives, yes conservatives will do everything you say conservatives, we'll even change our policies so that we can be just like you" a Llafur "You created a mass ASBO problem" ar Ceidwadwyr "Make the poorest more poor, that's what your good at"!!!

Ian Hislop: As the editor of Private Eye, I'll sit here reserving you all and I may crack a joke or two to keep you at ease!

Dw i 'di colli Pob ffydd mewn gwleidyddiaeth, mae'r Blaid Geidwadol yn rhu brysur yn bychanu'r Blaid Lafur i boeni am broblemau'r Wlad!!! Y Blaid Ryddfrydol yn rhu brysur yn actio fel cwn bach i'r Blaid Geidwadol, Y Blaid Lafur yn rhu brysur yn chwilio am arweinydd newydd sy'n dasg ofnadwy o anodd gan nad oes neb yn ddigon deallus i fod yn arweinydd! Mae Plaid Cymru yn rhu brysur yn trio ffigro allan be ydyn nhw...h.y rwy'n cytuno gyda Dafydd Iwan dim yn yr union ru'n ffordd...ond rwy'n sicr yn credu bod yna ormod o liwiau h.y glas, melyn, gwyrdd a coch yn y Blaid ar hyn o bryd, ac os nad oes gan y Blaid y ru'n weledigaeth wleidyddol maen amhosib iddynt bendrefynu ar bolisiau, nid gwleidydd ydwi i wrth gwrs ond yn fy marn i mae Democratiaeth wedi mynd i'r wal ar ol i filoedd ar filoedd bleidleisio nol ym Mis Mai dim ein pleidleisiau ni oedd yn pendrefynu ar arweinyddiaeth ein gwlad ond y Blaid Ryddfrydol...roedd y pwer i gyd yn ei dwylo nhw!!!

Dyna ni.... diwedd y post annisgwyl ar fy mlog!!

Hwyl am y tro!

Wednesday, 11 August 2010

Monday, 9 August 2010

Eisteddfod Glyn Ebwy

Wel wel blydi hel dwi rioed 'di bod mewn steddfod mor bizzare yn fy mywyd!! Cyrredd methu ffeindio nunlle, dim hyd yn oed y pafiliwn pinc oherwydd bod nhw ond 'di rhoi ychydig o arwyddion i fyny er mwyn rhwystro pobl rhag ddwyn!! Maes B? Wel dim bo' fi'n ffan masif o faes B pa ry'n bynnag ond roedd Maes B eleni yn debyg iawn i gonsentration camp! Roedd y lle'n yng nghanol industrial estate, ac er mwyn i ni allu osod tent roedden nhw 'di gwario 40,000 ar dyrff, iep TYRFF ar ben concrit ac ie roedd hi'n amhosib rhoi'r pegs mewn gan bo' na gongrit o dan yr inch o dyrff, rant drosodd!!!

Arwahan i hynny ges i amser gwych ond roedd hynny'n rannol am fod genai get awe sef y Maes Carafannau, diolch Ani!!Dyma le braf, 4 milltir o'r Maes ac eto roedd hi'n andros o anodd ffeindio'r lle gan nad oedd yna arwyddion! Ond roedd o'n le braf, llynnoedd, mynyddoedd a GYPSIES! Iep, gypsies ges i sgwrs hefo ryw ddynes ar y maes a dyma hi'n deutha fi bo'r gypsies ma'n gyrru dros y mynydd mewn quad bikes ac yn dwyn allan o garafannau yn ystod y nos, felly fel y gwelwch mae Glyn Ebwy yn un o'r llefydd mwyaf diogel yn y byd!!!

O ran gigs, roedd yr gigs yn y Clwb Rygbi'n wych, Twmffat a Bob Delyn oedd yr highlights ac wrth gwrs Meic Stevens! Cefais y fraint o ddod i nabod rhai o'i feibion yn ystod fy amser yng Nghlyn Ebwy, cymeiriadau dyna'r oll gellai ddweud!!

Nos sadwrn, noson wych, diwrnod gwych! Diolch oll am amser bendigedig yng Nghlyn Ebwy a diolch eto i Seimon y Saxo am fynd a fi yno ac yn nol mewn un darn!!!

Ceri

Thursday, 8 July 2010

News from Nepal!

MID WESTERN NEPAL- THE IGNORED

Geographical facts

• Biggest development region of 5 development
• least populated development region
• economically the poorest
• people are very traditional.
• no good land for cultivation so most of people suffer from starvation for more than 6months in a year.
• no proper presence of government offices.
• very poor conditon of health, last years few hunders of people lost their life due too diorreah and cholera
• no good drinking water.
• Very poor literacy rate.
• no equal opportunity for women you can imagine it after living in our village.

Why I do include these things because you want to invest in sector of education which can change the situation of others. So in conclusion mid west is very poor in every field, life there is very miserable, geographically complicated but immense opportunity to develop the tourism sector. I advise you to come to Nepal and visit that region and you will know how miserably people are living their life. For more information you can search Life in midwestern development region of nepal with the help of google. Whatever I find the new I will send it to you .I will always with the people who got light heart as u do. All the best for ur work and reply me soon.one good news I started my Masters in business studies.

Niranjan Ghimire
Lamatar, Nepal

Thursday, 24 June 2010

Osborne ar Gyllideb!

Cyllideb!
Wel wir, bellach ma'r gyllideb wedi bod ac rwan da ni'n disgwyl i weld ei effaith.

T.A.W fyny 20%: Gwych i fusnesau sy'n ennill dros 60,000 y flwyddyn, wehei pobl cyfoethocaf y wlad yn manteisio, pobl dlotaf y wlad yn dioddef!

Rhewi budd-daliadau teulu: Osborne yn rhewi budd-dal plant am ddwy flynedd; o ystyried bod 60% o swyddi Cymru'n cael ei ariannu gan y llywodraeth a bo'r llywodraeth yn gwneud 25% o doriadau yn y sector cyhoeddus, bydd mwy o bobl Cymru'n ddi-waith ac yn derbyn budd-dal isel iawn! Gwelwn batrwm yn datblygu y cyfaethog yn elwa ar tlodion yn dioddef!!

Dw i'n depressed!!

Hwyl fawr!

Sgyrsiau Call!

Su ma'i?

Mae genai ddigwyddiadau ar y gweill i godi ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd mewn gwledydd datblygiedig yn Asia a gweddill y byd! Gobeithio gall rai ohonach chi sy'n boddro edrych ar fy mlog gefnogi, drwy fynychu rhai ohonyn nhw!

Cefais sgwrs ddiddorol iawn hefo bachgen o'r pentref bues i'n gwirfoddoli ynddi am effaith cynhesu byd eang. Dywedoddbo'r tywydd yn Nepal yn afiach o boeth a fel arfer adeg yma o'r flwyddyn ma nhw fel rheol yn cael cawodydd o law; felly mae'r tymor yn cael ei alw'n "The Rice season" lle mae gwragedd a merched ifanc yn gwario lot fawr o'i hamser yn tyfu a plannu hadau reis, ond yn anffodus oherwydd effaith cynhesu byd eang, does dim reis yn tyfu'n unman, oherwydd bo nhw'm yn cael digon o law!!!

Big deal? Medda chi! Ond maer pobl yma'n dibynnu ar reis, nid yn unig ar gyfer bwydo'r teulu ond i sefydlogi economi'r wlad. Rwan bydd rhaid iddynt fewnforio reis o India, golygai hyn bod India unwaith eto'n datblygu a bo' Nepal yn parhau i ddioddef!

Cefais sgwrs am addysg y wlad hefyd; yn ol Niranjan, bachgen sydd mewn swydd dda ac wedi derbyn addysg dda, nid oes gymaint o broblem yn ardal Gorllewinol y wlad. Dywed ef bo'r pentref y bues i'n gwirfoddoli ynddi'n dlawd, ond ddim hanner mor dlawd a rhan Dwyreiniol y Wlad. Mae rhan fwyaf o'r boblogaeth sy'n byw'n Nwyrain Nepal yn anlythrennog; yn dioddef o ddiffyg maeth; does ganddyn nhw'm trefi na pentrefi datblygiedig, system ffyrdd gall. Ychydig iawn o arian sy'n cael ei neilltuo ar gyfer addysg y wlad, ar mae'r rhan fwyaf yn dewis mynychu ysgolion preifet yn ardal Kathmandu (y prif Ddinas) felly gallwch ddychmygu sefyllfa addysg y Dwyrain.

Dweud oedd ef hefyd, bod angen i'r arian sy'n cael ei roi i Nepal fynd yn uniongyrchol at addysgu athrawon,

" Does dim pwrpas adeiladu ysgolion os nad 'di safon athrawon yn cyd-fynd gyda safon yr adeiliad"medda ef!

Yn wir, tra oeddwn ni yno darganfyddais bo rhai athrawon yn yr Ysgol heb dderbyn unrhyw hyfforddiant, gan nad oedd yn hanfodol iddynt ddangos ei tystysgrif ymarfer dysgu.

Diddorol oedd yr sgwrs 5 munud ar facebook!!!

Trist iawn, gwelwn yma bod yna 2 prif achos o dlodi'n Nepal, Effaith Cynhesu Byd Eang ag Diffyg Addysg, ma na restr enbyd o achosion...felly i glywed sut y gallwch chi helpu, neu efallai bo chi'n awyddus i ddysgu mwy?....

Byddai'n edrych ar rhai o achosion o dlodi'n weddill Asia o fewn y mis nesaf, cyn cyflwyno noson hwyliog ym Morgan Lloyd ar y 30ain o fis Orffennaf, Nos Wener am 7.30y.h (Dwi'n meddwl). Dw i wrthi'n casglu cerddoriaeth Asiaidd ar hyn o bryd, lot fawr o hwyl, dwi 'di darganfod lot o gerddoriaeth "underground" hollol cwl sydd am godi chi o'ch seddi i ddawnsio!!!

Dwi hefyd yn gobeithio cynnal noson arbennig yng nghwmni Gwilym Morus ar 23ain o fis nesa, rwla'n ardal Llanrwst! Bydd nifer o bobl diddorol yn siarad am ei profiad yn Palestinia ac yn cyflwyno ffyrdd y gallech chi helpu...!!!!!


Cariad am y tro,
Ceri

Thursday, 3 June 2010